Print Solutions
Konica Minolta yn cynnwys cymorth Cymraeg ar draws bizhub, eu cyfres o ddyfeisiau aml-swyddogaeth
Mae Konica Minolta yn falch o gyhoeddi eu bod nawr yn cynnig cymorth Gymraeg ar draws bizhub, eu cyfres o ddyfeisiau aml-swyddogaeth. Mae ychwanegu’r Gymraeg yn ateb y galw cynyddol gan gwsmeriaid yng Nghymru am ryngwyneb defnyddiwr sy’n cynnwys eu dewis iaith.
'Mae tua un rhan o bump o boblogaeth Cymru’n siarad Cymraeg ar hyn o bryd ac mae Llywodraeth Cymru’n frwd dros ddiogelu’r iaith. Mae targedau uchelgeisiol wedi’u gosod i gynyddu nifer y bobl sy’n defnyddio’r Gymraeg, gyda tharged o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae'r broses hon yn cynnwys rhoi mwy o gydnabyddiaeth i’r Gymraeg mewn cynnyrch bob dydd er mwyn annog pobl i ddefnyddio’r iaith o ddydd i ddydd,' dywedodd Malcolm Smith, Rheolwr Marchnata Cynnyrch yn Konica Minolta Business Solutions (UK) Ltd.
‘Mae Konica Minolta yn ymdrechu i gynnwys ein holl gwsmeriaid, ac rydyn ni’n falch o gefnogi’r gwaith o ddiogelu a hyrwyddo’r Gymraeg drwy ein cynnyrch a’n hatebion. Rydyn ni’n gallu darparu cymorth llawn yn Gymraeg, drwy ein dyfeisiau aml-swyddogaeth yn unig neu drwy ein hatebion,’ ychwanega Malcolm. ‘Felly, rydyn ni mewn sefyllfa ddelfrydol i gefnogi sefydliadau ledled y wlad, fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru, cynghorau lleol, ysgolion, y BBC a’r sector preifat ehangach.’
Mae cymorth Cymraeg ar gael ar gyfer panel a gyrwyr y dyfeisiau lliw diweddaraf yn y bizhub i-Series sy’n gydnaws â'r rhyngrwyd pethau, yn ogystal â’r dyfeisiau yng nghyfresi hŷn 7, 8 a 9.
Mae gan Konica Minolta dreftadaeth a phresenoldeb logistaidd cryf yng Nghymru, gyda safle amlwg yn y farchnad a thîm gwasanaeth lleol pwrpasol yn y wlad. Hefyd mae ganddynt swyddfa ranbarthol yn Abertawe sy’n gweithio’n agos gyda phartneriaid a chwsmeriaid.
Mae'r gyrwyr Cymraeg a’r deunyddiau i’w llwytho i lawr ar gael yn: www.konicaminolta.eu/eu-en/support/download-centre
Konica Minolta has announced it now offers Welsh language support across its bizhub multifunctional devices range. The addition of Welsh answers a growing demand from customers in Wales for a user interface that features their preferred language.
‘Welsh is currently spoken by around a fifth of the population of Wales and the Welsh Government is passionate about protecting the language. Ambitious targets have been set to increase its usage, with a target of one million Welsh speakers by 2050. This process includes greater recognition of Welsh in everyday products to encourage its day to day use,’ said Malcolm Smith, product marketing manager at Konica Minolta Business Solutions (UK) Ltd.
‘Konica Minolta strives for inclusion of all our customers, and we are proud to support the protection and promotion of the Welsh language through our products and solutions. We can provide full Welsh language support, whether through our MFDs alone, or via our solutions,’ added Malcolm. ‘On that basis we are ideally positioned to support organisations throughout the country, such as the National Assembly of Wales, local councils, schools, BBC and wider private sector.’
Welsh language support is available for the panel and drivers of the latest IoT enabled bizhub i-Series colour devices as well as the older 7, 8 and 9 series devices.
Konica Minolta has a strong heritage and robust logistical presence in Wales, with a prominent market position and a dedicated local service team based in the country, along with a regional office in Swansea that closely supports partners and customers.
The Welsh language drivers and downloads are available at: www.konicaminolta.eu/eu-en/support/download-centre